Wednesday, 4 January 2017

Gwasanaethau Nadolig 2016

Cafwyd oedfa arbennig  yn y Tabernacl, fore Sul, Rhagfyr 11ed o dan ofal plant ac ieuenctid yr ysgol Sul-i gyd yn cyflwyno eu gwaith yn glir a graenus. Gwasanaeth ychydig yn wahanol i’r arfer oedd hwn ac yn wir, dyna oedd neges y gwasanaeth sef y pwysigrwydd o ddod yn gyfarwydd â newid. Trafodwyd y newidiadau a ddaeth i ran y Tabernacl yn ystod y flwyddyn a’r newid ehangach ar draws y byd. Gwelwyd lluniau ar y sgrin o lwyddiant Cymru yng ngystadleuaeth yr Euros eleni. Bu’r plant wedyn yn disgrifio’r gwahanol draddodiadau a geir mewn nifer o wahanol wledydd ar draws Ewrob yn ystod tymor y Nadolig. Yn ganolog i’r hanesion hyn i gyd oedd y neges mai “mewn undod mae nerth”. Roedd y sgript gelfydd a ffraeth wedi ei llunio gan  Lowri Mathews yn cloi  gyda’r neges bwysicaf sef mai gwir ystyr y Nadolig yw dyfodiad y Gwaredwr i’r byd. Cyfeiliwyd i’r emynau gan y band sef Meredydd , Peter, Dafydd, Alun a Dylan. Yn dilyn yr oedfa cafodd y plant gyfle i ymlacio ym mharti  yr Ysgol Sul yn y festri a chael ymweliad gan Siôn Corn.

Mae’n siwr fod sefydlu côr yr ofalaeth yn un o uchafbwyntiau mis Rhagfyr- pan ddaeth nifer o gantorion brwdfrydig at ei gilydd o dan arweinyddiaeth Julie Thorpe gydag Enid Davies yn cyfeilio. Ar nos Sul, Rhagfyr 11eg cafwyd y perfformiad cyntaf ganddynt yng Ngwasanaeth Plygain Merched y Wawr a gynhaliwyd eleni yn Y Tabernacl.




Trefnwyd Cor yr Ofalaeth ar gyfer y Gwasanaeth Plygain yn y Tabernacl. Canu bendigedig!
Y  bore Sul canlynol, sef pedwerydd sul yr Adfent, cafwyd oedfa arbennig arall dan ofal yr Ifanc a’r Parchg. Peter Cutts. Roedd yn hyfryd i weld rhai o bobl ifanc yr Eglwys wedi dychwelyd adref ar wyliau o’r Coleg ag  eraill erbyn hyn  wedi dechrau ar swyddi i ffwrdd o Gaerfyrddin. Cafwyd nifer o ddarlleniadau, cerddi, gweddiau ac eitemau cerddorol  ganddynt  yn creu naws arbennig. Yn y myfyrdod  bu’r Parchg. Peter Cutts yn sôn am yr ansicrwydd cenedlaethol a rhyngwladol a welir ar hyn o bryd,ond yn pwysleisio fod yr aros a disgwyl cyfnod yr adfent yn creu cyfle i ddarganfod pwy ydym ni, a’r pwysigrwydd o fentro mewn ffydd i’r ansicrwydd er mwyn yr hwn sy’n rhodd i ni gyd. Gorffennodd y myfyrdod drwy ddangos cyflwyniad “power point”  oedd yn diolch i Dduw am ei rodd anhraethol i’r byd.  Cyfeiliwyd i’r Emynau gan y Band sef Lynn, Peter a Llewellyn.

Ar y nos Sul, cafwyd oedfa Naw Llith a Charol o dan ofal y Gweinidog a’r aelodau  yn y festri. Crewyd naws hyfryd drwy gyfres o ddarlleniadau, cerddi , eitemau cerddorol, gweddiau a charolau. Cafwyd eitem hefyd gan gôr yr ofalaeth. Cyfeiliwyd  i’r carolau gan Enid Davies.

Yn ystod mis Rhagfyr bu nifer o’r aelodau yn ymweld â chartefi preswyl Brynderwen, Erw Hir  a Glyn Nest, Castellnewydd Emlyn i gynnal gwasanaeth o dan ofal y Parchg Peter Cutts. Cyflwynwyd darlleniadau a charolau, eitem gan gôr yr ofalaeth a chafwyd myfyrdod gan y Parchg Wynn Vittle.

Bore’r Nadolig, cafwyd dechrau da i’r diwrnod drwy gynnau cannwyll y Nadolig yn oedfa’r ofalaeth yn Y Tabernacl o dan arweiniad y Parchg Peter Cutts. Roedd nifer dda  wedi dod ynghyd â’r plant a oedd yn bresennol wedi dod ag un anrheg i ddangos i’r Gweinidog. Yn y myfyrdod, neges y Gweinidog oedd sut y cafodd gwirionedd, dirgelwch a gogoniant y Nadolig eu datgelu mewn carthion budreddi stabl y byd hwn, felly y perygl yw ein bod yn eu colli. Amlinellwyd y neges gyda fideo byr yn dwyn y teitl “Rhywbeth od a ddigwyddodd mewn parti Nadolig”

Roedd yr oedfa hon yn glo arbennig i gyfres llwyddiannus o oedfaon  cyfnod yr Adfent yn  y Tabernacl.

Friday, 7 August 2015

Gwibdaith i Fro Morgannwg

Ar fore Sadwrn heulog, Gorffennaf 25ain daeth nifer dda o aelodau  a chyfeillion Cymdeithas y tair Eglwys at ei gilydd  y tu allan i’r Tabernacl i gychwyn ar y wibdaith flynyddol. Cafwyd siwrnai hwylus i lawr yr M4 a chyrraedd crochendy Ewenny. Cawsom gyfle i weld y crochennydd wrth ei gwaith a chael esboniad o’r broses gymleth o drawsnewid lwmp o glau yn jwg neu fowlen gain.
O Ewenny, teithiwyd i bentref hardd Llancarfan, ym Mro Morgannwg i ymweld ag Eglwys Cadog Sant. Daeth y Brawd Ian Fell i’n cyfarfod yn yr eglwys a chawsom ganddo hanes diddorol iawn yr Eglwys hynafol hon. Credir ei bod wedi ei sefydlu tua 1200. 

Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf fe wnaed darganfyddiad syfrdanol, pan ddatgudduddiwyd drwy hap a damwain  beintiadau canoloesol yn dyddio nôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafwyd sgwrs diddorol iawn a manwl am hanes y lluniau Canol Oesol. Rhyfeddwyd pawb gan hanes y gwaith celfydd iawn o ddadorchuddio’r lluniau yma o dan rhyw saith ar hugain haenen o wyngalch!

Cafwyd oedfa fer bwrpasol ac effeithiol yn yr Eglwys o dan arweiniad ein Gweinidog, Y Parchg Peter Cutts a phawb yn cytuno bod yr ymweliad â’r eglwys hon wedi bod yn brofiad arbennig.


O Lancarfan, cafwyd taith fer i Erddi Dyffryn sy’n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac sy’n cael ei ystyried yn un o erddi prydferthaf Cymru. Cafwyd prynhawn hyfryd yno yn crwydo’r gerddi; gweld y casgliad trawiadol o ystafelloedd gardd, y lawntiau ffurfiol, y gwelyau planhigion tymhorol a choed o bedwar ban byd; ymweld â’r tŷ hynafol a chael cyfle i gymdeithasu yn yr haul braf.



Cyfle arall i gymdeithasu wedyn dros bryd blasus o fwyd ym Mwyty’r Sosban, yn Llanelli cyn troi yn ôl am Gaerfyrddin wedi cael diwrnod hyfryd iawn a phawb yn ddiolchgar i’r rhai a fu’n gwneud y trefniadau i sicrhau llwyddiant yr achlysur.

Fe welwch ragor o luniau ar we-fan y Tabernacl

www.tabernacl.net